°¬˛ćAƬ

A4046, Cwm I Aberbîg, Abertyleri Terfyn Cyflymder 30 Mya, 40mya A 50 Mya 2026

Deddf Rheoleiddio Traffig 1984 (A4046, Cwm I AberbĂ®g, Abertyleri) (Terfyn Cyflymder 30 Mya, 40mya A 50 Mya) 2026

Rhoddir hysbysiad drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ, wrth arfer ei bwerau yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’u diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, yn cynnig gwneud y canlynol:

1. Gosod terfyn cyflymder o 30 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r hysbysiad hwn.

2. Gosod terfyn cyflymder o 50 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 2 i’r hysbysiad hwn.

3. Gosod terfyn cyflymder o 40 mya drwy orchymyn ar hyd y ffordd a bennir yn Atodlen 3 i’r hysbysiad hwn.

Bydd y gorchymyn arfaethedig, os caiff ei wneud, yn dirymu pob gorchymyn blaenorol. Mae dogfennau sy’n rhoi rhagor o fanylion am y cynnig ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ a byddant felly tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn. Byddant yn cynnwys copĂŻau o’r atodlenni a’r mapiau arfaethedig sy’n nodi’r darnau o ffyrdd y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â hwy, ynghyd â datganiad y cyngor o’r rhesymau dros gynnig gwneud y gorchymyn.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig anfon datganiad ysgrifenedig gydag unrhyw sylwadau ar y cynnig at Gyd-gyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN. Dylai unrhyw sylwadau gael eu hanfon a’u cyrraedd o fewn 21 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad. Fel arall, gallwch anfon e-bost at: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk

Bydd y cyngor bwrdeistref sirol yn ystyried sylwadau a dderbynnir mewn ymateb i’r hysbysiad hwn. Gallant gael eu lledaenu’n eang at y dibenion hyn a’u gwneud ar gael i’r cyhoedd.

ATODLEN 1 30 MPH SPEED LIMIT

A4046 Cwm i Aberbîg

O’i chyffordd â chylchfan Stryd Forol, am bellter o 220 metr i gyfeiriad deheuol, i ben deheuol Teras Waterloo, Glynebwy, NP23 7TL.

ATODLEN 2 50 MPH SPEED LIMIT

A4046 Cwm i Aberbîg

O bwynt 693 metr o’i chyffordd â chylchfan yr A467, am bellter o 2,175 metr i gyfeiriad gorllewinol, i Deras Waterloo, Glynebwy, NP23 7TL.

ATODLEN 3 40 MPH SPEED LIMIT

A4046 Cwm i Aberbîg

O bwynt 50 metr o’i chyffordd gyda’r cylchfan A467 am bellter o 643 metr tua’r gorllewin.

DYDDIEDIG: Dydd Iau 18 Mehefin 2026

Mark Thomas

Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd

Dogfennau Cysylltiedig