°¬²æAƬ

100 o swyddi newydd a hwb sylweddol i leihau carbon wrth ehangu cwmni plastig

Mae cwmni prosesu plastig blaenllaw yn creu 100 o swyddi newydd yn Ne Cymru ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at leihau ôl troed carbon Cymru.

  • 100 o swyddi newydd yng Ngorseinon a Thredegar erbyn mis Mawrth 2028
  • Bydd y cwmni yn fwy na dyblu capasiti ailbrosesu Cymru ar gyfer plastig wedi'i ailgylchu
  • Bydd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru o tua 150,000 tunnell y flwyddyn – sy'n cyfateb i dynnu 120,000 o geir oddi ar y ffordd

Dyfarnwyd cymorth gan Lywodraeth Cymru i J & A Young (Leicester) Ltd, a elwir yn Jayplas, yn 2023 i sefydlu gwaith ailbrosesu plastig yn hen ffatri Toyoda Gosei yng Ngorseinon, Abertawe. 

Ac ail safle yn Ystâd Ddiwydiannol Tafarnaubach, Tredegar, gyda dros 100 o swyddi i'w creu ar draws y ddau safle erbyn mis Mawrth 2028, pan ddisgwylir i’r ddau safle fod yn gwbl weithredol.

Bydd y cymorth hwn yn caniatáu i'r cwmni fwy na dyblu capasiti ailbrosesu Cymru ar gyfer plastig wedi'i ailgylchu, gydag allbwn o'r ddau safle yn gallu prosesu o leiaf 100,000 tunnell o blastig meddal a chaled wedi'i ailgylchu y flwyddyn, gan roi hwb i'r economi gylchol yng Nghymru.

Bydd yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru tua 150,000 tunnell y flwyddyn – sy'n cyfateb i dynnu 120,000 o geir oddi ar y ffordd – gan wneud cyfraniad sylweddol tuag at allyriadau sero wastraff a sero net erbyn 2050.

Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:

“Mae Jayplas yn dewis agor ail safle yma yng Nghymru yn hwb pellach i ddatgarboneiddio a bydd yn golygu y bydd y cwmni'n creu swyddi gwyrdd mewn ardal sydd â gorffennol diwydiannol cyfoethog. Dyma'r union fath o gyflogaeth gynaliadwy, sy'n wynebu'r dyfodol yr ydym am ei feithrin fel rhan o'n trawsnewidiad i economi gylchol.

Mae ein Llywodraeth newydd yng Nghymru yn canolbwyntio ar greu economi sero net gryfach, fwy cynhyrchiol, sy'n cyflawni i bobl ym mhob rhan o Gymru.â€

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:

“Mae ehangu ein gallu i ailbrosesu plastig yng Nghymru yn gam hanfodol a fydd yn gweld deunydd sy'n cael ei ailgylchu - ac rydym yn un o'r goreuon yn y byd am ei gasglu - yn cael ei brosesu'n ddeunydd gwerthfawr sy'n mynd yn ôl i'r economi.

Trwy gadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad ac allan o'r amgylchedd, bydd cyfleuster Jayplas yn helpu i leihau allyriadau tra'n rhoi manteision gwirioneddol i gymunedau a'r amgylchedd naturiol ledled Cymru. Rwy'n falch iawn bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i wneud i hyn ddigwydd fel rhan o'n hymrwymiad i sero net.â€

Dywedodd Kerry O’Neill, Rheolwr Masnachol Jayplas: 

“Mae Jayplas yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn agor dau safle Prosesu ac Ailgylchu Plastigau yn Abertawe a Thredegar. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ehangu ein gweithrediadau i Gymru.

Byddwn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf o’r radd flaenaf i sicrhau bod gennym gyfleusterau sy’n arwain y farchnad, yn cynhyrchu cynhyrchion o’r safon uchaf ac yn dod â buddsoddiad hirdymor a swyddi cynaliadwy i’r ardal.â€